
Mae’r pecyn yma yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o luosi a rhannu drwy ddefnyddio amrywiaeth o gynrychioliadau a strategaethau cyfrifo. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys adnabod grwpiau cyfartal, defnyddio araeau, cyfrif fesul 2, 3, 4, 5, 8 a 10, ac archwilio’r cysylltiad rhwng lluosi a rhannu. Mae dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o strategaethau rhannu drwy rannu a grwpio gwrthrychau’n grwpiau cyfartal, defnyddio ffeithiau lluosi cysylltiedig i ateb cwestiynau rhannu, ac ymarfer rhannu gan ddefnyddio tablau lluosi. Ceir cyfleoedd i gymhwyso’r sgiliau hyn wrth ddatrys problemau mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniad a thaflenni wedi’u gwahaniaethu – AA (Anelu At), D (Disgwyliedig) a DD (Dysgu Dyfnach), gyda chyfleoedd i ddatblygu rhuglder, rhesymu a datrys problemau. Mae tudalennau atebion hefyd wedi’u cynnwys, yn ogystal ag asesiad diwedd uned i wirio dealltwriaeth ac ymchwiliad penagored i herio ac ymestyn dysgwyr....
Hello,
Downloads are for members of Grammarsaurus only.
Please sign up below or login if you are already a member.
Hi! Sign in Or Solo sign up Or School sign up