
Mae’r pecyn yma yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o werth lle rhifau hyd at 1,000,000. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys darllen, ysgrifennu, cynrychioli a rhannu rhifau mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan ddefnyddio eu gwybodaeth o unedau, degau, cannoedd, miloedd a degau o filoedd. Mae dysgwyr hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o rifau Rhufeinig ac yn defnyddio gwerth lle i adnabod gwerth pob digid.Mae’r gweithgareddau hefyd yn cynnwys cyfrif ymlaen ac yn ôl mewn camau gwahanol, cymharu a threfnu rhifau hyd at 1,000,000, adnabod patrymau rhif, a defnyddio llinellau rhif i gefnogi rhesymu mathemategol. Ceir cyfleoedd i dalgrynnu rhifau i’r 10, 100, 1,000, 10,000 a 100,000 agosaf, yn ogystal â datrys problemau sy’n ymwneud â gwerth lle mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniad a thaflenni wedi’u gwahaniaethu – AA (Anelu At), D (Disgwyliedig) a DD (Dysgu Dyfnach), gyda chyfleoedd i ddatblygu rhuglder, rhesymu a datrys problemau.Mae tudalennau atebion hefyd wedi’u cynnwys, yn ogystal ag asesiad diwedd uned i wirio dealltwriaeth ac ymchwiliad penagored i herio ac ymestyn dysgwyr....
Hello,
Downloads are for members of Grammarsaurus only.
Please sign up below or login if you are already a member.
Hi! Sign in Or Solo sign up Or School sign up