
Mae’r pecyn yma yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o adio a thynnu rhifau drwy ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau pen ac ysgrifenedig. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys adio a thynnu rhifau â mwy na phedwar digid, defnyddio dulliau colofn ffurfiol, a defnyddio talgrynnu ac amcangyfrif i wirio cywirdeb cyfrifiadau. Mae dysgwyr hefyd yn archwilio’r berthynas rhwng adio a thynnu drwy ddefnyddio gweithrediadau gwrthdro i ddatrys a gwirio cyfrifiadau.Mae’r gweithgareddau hefyd yn cynnwys datrys problemau aml-gam mewn amrywiaeth o gyd-destunau, cymharu cyfrifiadau i adnabod patrymau a chysylltiadau, canfod rhifau coll, a dewis y dull a’r gweithrediad mwyaf priodol i ddatrys problemau mathemategol yn effeithiol. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniad a thaflenni wedi’u gwahaniaethu – AA (Anelu At), D (Disgwyliedig) a DD (Dysgu Dyfnach), gyda chyfleoedd i ddatblygu rhuglder, rhesymu a datrys problemau. Mae tudalennau atebion hefyd wedi’u cynnwys, yn ogystal ag asesiad diwedd uned i wirio dealltwriaeth ac ymchwiliad penagored i herio ac ymestyn dysgwyr....
Hello,
Downloads are for members of Grammarsaurus only.
Please sign up below or login if you are already a member.
Hi! Sign in Or Solo sign up Or School sign up