
Mae’r pecyn yma yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o adio a thynnu rhifau hyd at dri digid gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau pen ac ysgrifenedig. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys defnyddio bondiau rhif, adio a thynnu fesul 1, 10 a 100, adnabod patrymau mewn cyfrifiadau, a defnyddio gwerth lle i gefnogi cyfrifiadau. Mae dysgwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau wrth adio a thynnu ar draws ffiniau 10 a 100, gan ddefnyddio dulliau ysgrifenedig gyda chyfnewid lle bo angen. Mae’r gweithgareddau hefyd yn cynnwys adio a thynnu rhifau dau a thri digid, canfod parau o rifau sy’n gwneud 100, amcangyfrif atebion, defnyddio gweithrediadau gwrthdro i wirio cyfrifiadau, a datrys problemau sy’n cynnwys rhifau coll a chyd-destunau mathemategol amrywiol. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniad a thaflenni wedi’u gwahaniaethu – AA (Anelu At), D (Disgwyliedig) a DD (Dysgu Dyfnach), gyda chyfleoedd i ddatblygu rhuglder, rhesymu a datrys problemau. Mae tudalennau atebion hefyd wedi’u cynnwys, yn ogystal ag asesiad diwedd uned i wirio dealltwriaeth ac ymchwiliad penagored i herio ac ymestyn dysgwyr....
Hello,
Downloads are for members of Grammarsaurus only.
Please sign up below or login if you are already a member.
Hi! Sign in Or Solo sign up Or School sign up