
Mae’r pecyn yma yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o adio a thynnu o fewn 100 gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau meddyliol ac ysgrifenedig. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys defnyddio bondiau rhif hyd at 10 a 20, adnabod a defnyddio teuluoedd ffeithiau cysylltiedig, ac adio a thynnu rhifau gan ddefnyddio eu gwybodaeth o werth lle a bondiau rhif. Mae dysgwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau wrth adio a thynnu ar draws ffiniau 10, gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau i gefnogi eu cyfrifiadau.Mae’r gweithgareddau hefyd yn cynnwys adio a thynnu rhifau un digid a dau ddigid, canfod 10 yn fwy neu 10 yn llai na rhif penodol, cymharu brawddegau rhif, a datrys problemau sy’n cynnwys rhifau coll. Ceir cyfleoedd i gymhwyso sgiliau adio a thynnu mewn amrywiaeth o gyd-destunau a datblygu hyder wrth ddewis dulliau cyfrifo effeithiol. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniad a thaflenni wedi’u gwahaniaethu – AA (Anelu At), D (Disgwyliedig) a DD (Dysgu Dyfnach), gyda chyfleoedd i ddatblygu rhuglder, rhesymu a datrys problemau.Mae tudalennau atebion hefyd wedi’u cynnwys, yn ogystal ag asesiad diwedd uned i wirio dealltwriaeth ac ymchwiliad penagored i herio ac ymestyn dysgwyr....
Hello,
Downloads are for members of Grammarsaurus only.
Please sign up below or login if you are already a member.
Hi! Sign in Or Solo sign up Or School sign up