
Mae’r pecyn yma yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o werth lle rhifau hyd at 100. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys darllen, ysgrifennu a chynrychioli rhifau mewn amrywiaeth o ffyrdd, defnyddio degau ac unedau i adeiladu rhifau, a defnyddio siartiau gwerth lle i gefnogi dealltwriaeth. Mae dysgwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau wrth rannu rhifau yn ddegau ac unedau, ysgrifennu rhifau mewn geiriau ac ar ffurf estynedig, a lleoli rhifau ar linellau rhif.Mae’r gweithgareddau hefyd yn cynnwys cyfrif fesul 2, 3, 5 a 10, adnabod patrymau rhif, amcangyfrif a chymharu rhifau, a defnyddio’r iaith fathemategol mwy na, llai na ac yn hafal i wrth gymharu a threfnu rhifau a gwrthrychau. Ceir cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o rif a gwerth lle mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniad a thaflenni wedi’u gwahaniaethu – AA (Anelu At), D (Disgwyliedig) a DD (Dysgu Dyfnach), gyda chyfleoedd i ddatblygu rhuglder, rhesymu a datrys problemau.Mae tudalennau atebion hefyd wedi’u cynnwys....
Hello,
Downloads are for members of Grammarsaurus only.
Please sign up below or login if you are already a member.
Hi! Sign in Or Solo sign up Or School sign up