
Mae’r pecyn yma yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o ffracsiynau drwy gymharu, trefnu a symleiddio ffracsiynau, yn ogystal â chanfod ffracsiynau cyfwerth. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys defnyddio ffactorau a lluosrifau i gymharu ffracsiynau, adio a thynnu ffracsiynau a rhifau cymysg, a datblygu dealltwriaeth o’r berthynas rhwng rhannau a chyfan. Mae dysgwyr hefyd yn archwilio lluosi a rhannu ffracsiynau, canfod ffracsiynau o symiau, a defnyddio diagramau a modelau i gefnogi eu dealltwriaeth. Ceir cyfleoedd i ddatrys problemau aml-gam sy’n cynnwys y pedair rheol a chymhwyso sgiliau ffracsiynau mewn amrywiaeth o gyd-destunau mathemategol. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniad a thaflenni wedi’u gwahaniaethu – AA (Anelu At), D (Disgwyliedig) a DD (Dysgu Dyfnach), gyda chyfleoedd i ddatblygu rhuglder, rhesymu a datrys problemau. Mae tudalennau atebion hefyd wedi’u cynnwys, yn ogystal ag asesiad diwedd uned i wirio dealltwriaeth ac ymchwiliad penagored i herio ac ymestyn dysgwyr....
Hello,
Downloads are for members of Grammarsaurus only.
Please sign up below or login if you are already a member.
Hi! Sign in Or Solo sign up Or School sign up