
Mae’r pecyn yma yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o fesur hyd a chyfrifo perimedr. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys defnyddio a throsi rhwng cilometrau a metrau, archwilio’r berthynas rhwng gwahanol unedau mesur, a datblygu sgiliau mesur gan ddefnyddio unedau metrig. Mae dysgwyr hefyd yn dysgu cyfrifo perimedr petryalau drwy gyfrif sgwariau a defnyddio mesuriadau a roddir.Mae’r gweithgareddau hefyd yn cynnwys cyfrifo perimedr siapiau unionlin a pholygonau, canfod hyd ochrau coll, ac archwilio’r berthynas rhwng hydau ochrau wrth ddatrys problemau sy’n ymwneud â pherimedr. Ceir cyfleoedd i gymhwyso sgiliau mesur a rhesymu mathemategol mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniad a thaflenni wedi’u gwahaniaethu – AA (Anelu At), D (Disgwyliedig) a DD (Dysgu Dyfnach), gyda chyfleoedd i ddatblygu rhuglder, rhesymu a datrys problemau. Mae tudalennau atebion hefyd wedi’u cynnwys, yn ogystal ag asesiad diwedd uned i wirio dealltwriaeth ac ymchwiliad penagored i herio ac ymestyn dysgwyr....
Hello,
Downloads are for members of Grammarsaurus only.
Please sign up below or login if you are already a member.
Hi! Sign in Or Solo sign up Or School sign up